Lansiwyd prosiect newydd heddiw gan Radio Cymru i greu siart mawreddog o hoff ganeuon pop y genedl. Bwriad #40Mawr yw dathlu cyfoeth pop Cymraeg y deugain mlynedd ddiwethaf gan gofnodi hoff ganeuon gwrandawyr Radio Cymru.
Rhwng 2 a 18 Awst mae Radio Cymru yn gwahodd ei wrandawyr i enwebu eu tri hoff gân gyda rheswm am eu dewisiadau. Fydd y rhestr fuddugol yn cael ei ddarlledu ar 25 Awst yn fyw ar raglen ‘Deugain Uchaf’ Radio Cymru.
Yn un o gefnwyr y prosiect ac un o gyflwynwyr Radio Cymru, roedd Richard Rees, sy’n lleol i Lanelli, yn siarad â Betsan Powys ym mhabell Radio Cymru ar faes yr Eisteddfod heddiw. Yn “geidwad cerddoriaeth Gymraeg” a llais cyfarwydd ar y radio ers blynyddoedd, soniodd am y dasg fawr y genedl i bori trwy cyfoeth cerddorol pop Cymraeg.
Soniodd Betsan Powys, cyflwynydd arall Radio Cymru, fod yr ymgyrch yn achlysur arbennig ac arloesol i gofnodi chwaeth gerddorol y genedl, yn ogystal â siawns i bwysleisio pwysigrwydd barn eang y gwrandawyr i’r orsaf.
Mae dros 900 o weithgareddau yn digwydd ar y maes eleni, gyda chanran anferthol o rheiny yn berfformiadau byw gan fandiau ac artistiaid roc a pop cyfredol Cymraeg a fydd Llais y Maes yn cofnodi rhai o’r rheiny yn ein sesiynau acwstig dros yr wythnos.
Mae modd ffonio 03703 500 600 neu ddod mewn i babell radio Cymru’r wythnos hon i bleidleisio. Fi wedi gwneud fy newis i, nawr mae’n bryd i chi ddweud eich dweud eich dweud – #40Mawr
Comment on this article