Cardiff University’s Centre for Community Journalism in partnership with the National Eisteddfod of Wales is delighted to launch the first digital newspaper ever produced for the festival, called Llais y Maes (meaning Voice from the Field). LlaisyMaes.com is a bilingual website which will be run by an editorial team of seven Cardiff University students.
The National Eisteddfod of Wales initially approached Cardiff University’s Centre for Community Journalism last year to produce an experimental student-run blog on the festival. After the success of the project, the Centre for Community Journalism and the National Eisteddfod will launch a fully-fledged digital newspaper at this year’s event. Llais y Maes will provide an alternative view of the festival, showcasing a variety of events in and around the Eisteddfod, as well as interviews, films and photos documenting the most extraordinary sights on the Maes. The students will have access to the highest standard of journalism and digital media training from Emma Meese, Manager of the Centre for Community Journalism, and Sali Collins, Lecturer at Cardiff University’s leading School of Journalism, Media and Cultural Studies.
Cardiff University’s Centre for Community Journalism (C4CJ) researches into this area and offers networking, information and training for community journalists. The Centre has just delivered a Massive Open Online Course (MOOC) on Community Journalism, hosted by Open University’s FutureLearn platform, which attracted nearly 9,000 learners from 113 countries worldwide. Emma Meese, BBC Social Media trainer and former Producer, also delivers training sessions across Wales with a focus on digital skills and social media.
Mae’n bleser gan Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru lansio’r papur newydd digidol cyntaf i gael ei gyhoeddi ar gyfer yr ŵyl, sef Llais y Maes. Mae LlaisyMaes.com yn wefan ddwyieithog a fydd yn cael ei rhedeg gan dîm golygyddol sy’n cynnwys saith o fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd.
Daeth Eisteddfod Genedlaethol Cymru at Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd gyntaf y llynedd i greu blog arbrofol ar yr ŵyl yng ngofal myfyrwyr. Ar ôl llwyddiant y prosiect, bydd y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol a’r Eisteddfod Genedlaethol yn lansio papur newydd digidol llawn yn yr ŵyl eleni. Bydd Llais y Maes yn rhoi golwg arall ar yr ŵyl, gan ddangos gwahanol ddigwyddiadau yn yr Eisteddfod yn ogystal â digwyddiadau ymylol, ynghyd â chyfweliadau, ffilmiau a ffotograffau sy’n cofnodi’r pethau mwyaf arbennig i’w gweld ar y Maes. Bydd hyfforddiant ym maes newyddiaduraeth a’r cyfryngau digidol o’r safon uchaf ar gael i’r myfyrwyr gan Emma Meese, Rheolwr y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol, a Sali Collins, Darlithydd yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd.
Mae Canolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd yn ymchwilio i’r maes hwn ac mae’n cynnig cyfleoedd i rwydweithio, gwybodaeth a hyfforddiant i newyddiadurwyr cymunedol. Mae’r Ganolfan newydd ddarparu Cwrs Ar-lein Agored Enfawr (MOOC) ar Newyddiaduraeth Gymunedol, trwy gyfrwng FutureLearn y Brifysgol Agored, a denwyd bron i 9,000 o ddysgwyr o 113 o wledydd dros y byd. Hefyd mae Emma Meese, cyn Gynhyrchydd a hyfforddwr Cyfryngau Cymdeithasol y BBC, yn cynnig sesiynau hyfforddi trwy Gymru gan ganolbwyntio ar sgiliau digidol a chyfryngau cymdeithasol.