8 August 2014

O flodyn i wrthfiotig: Apêl am fêl

gan Wil Davies

Oes gennych chi fêl cartref i’w rannu? Mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn edrych am fêl o bethau byw eich gerddi! Os oes gennych chi fêl, beth am ei osod mewn jar a mentro i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli?

Ers sawl blwyddyn bellach, mae Prifysgol Caerdydd a’r Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi bod yn cydweithio’n agos i ddarganfod pa mor effeithiol mae mêl wrth drin a rhwystro heintiau, ac mae gan y ddau stondin wych yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni!

Sut maen nhw’n arbrofi’r mêl?

Maent yn profi’r mêl trwy gymryd sampl bychan iawn a’i osod mewn tyllau ar ddysgl betri sydd wedi’i gytrefu â bacteria fel MRSA. Dros gyfnod o 24 awr, mae ffactorau gweithredol yn y mêl yn ymledu o ganol y cylch ac yn lladd y bacteria, nes i’r graddiant fod yn rhy isel i arbed eu tyfiant.

Beth yw’r canlyniad?

Yn dilyn yr arbrofion hyn, darganfyddwyd mai mêl heb ei brosesu yw’r mêl mwyaf gweithgar a mêl wedi’i brosesu yw’r lleiaf gweithgar. Erbyn heddiw mae dros 200 o wahanol fathau o fêl wedi’i brofi ac mae tystiolaeth fod gan rai weithgareddau gwrthfacteria tu allan i’r rhai amlwg fel siwgr a MGO.

Sut y defnyddir codau bar DNA?

Mae’r Ardd Fotaneg yn ffocysu ar godau bar DNA er mwyn adnabod y planhigion a chanfod mwy o wybodaeth amdanynt. Caiff y canfyddiadau eu gwirio a’u dadansoddi drwy ddefnyddio meddalwedd amrywiol, ac uwchlwythir y cod bar DNA gorffenedig, gwybodaeth am y casgliad a delwedd ohonno i’r ‘Bar Code of Life Database’, sef adnodd mynediad agored byd-eang. Mae’r codau bar hyn yn ei wneud yn bosibl i adnabod rhywogaethau o fân-ddarnau o ddail, paill, hadau neu wreiddiau.

Os ydych yn hoff o wyddoniaeth neu bywyd gwyllt, ewch draw i’r babell Wyddoniaeth a Thechnoleg. Mae digonedd i’w wneud i bobl o bob oedran yno. Ni fyddwch yn cael eich siomi!

Felly, ewch â’ch mêl cartref i’w stondin lle fyddant yn ei brofi i chi!

 

 

Share this article

Posted by

Sali Collins

Sali Collins

Comment on this article