Mae’r Eisteddfod eleni wedi derbyn bron i 103,000 o ymwelwyr ar y maes hyd yn hyn, ond tybed a fydd yr ymwelwyr hyn yn dod â thwristiaeth i dref Llanelli? Felly, ‘rydym yn gofyn: ‘a yw’r Eisteddfod yn uned hunangynhwysol neu peidio?’
Siaradodd Llais y Maes gyda busnesau a chyfleusterau lleol o amgylch Llanelli er mwyn darganfod pa mor llwyddiannus mae’r Eisteddfod wedi bod iddynt mor belled, ac mae’r ymateb yn gyffredinol wedi bod yn dda.
Fe wnaethom sgwrsio gyda Rhys Andrews – rheolwr ‘Sosban’ sydd wedi ei leoli yn Y Pumphouse, Doc y Gogledd, Llanelli – a oedd yn bositif iawn am yr wythnos ddiwethaf.
“Mae busnes yn y bwyty wedi bod yn wych, heb os ma’ bob nos wedi bod yn brysur iawn yr wythnos hon. Cawsom ychydig o adloniant hefyd yn y bwyty a drefnom ein hunain.” dywedodd Rhys. ” ‘Rydym wedi cael llawer o ymwelwyr yr Eisteddfod ac ychydig o bobl leol sy’n parhau i’n hargymell o amgylch y maes.”
Ychwanegodd fod yr Eisteddfod wedi cael effaith gadarnhaol ar fusnes: “Yr ydym yn obeithiol y bydd ymwelwyr o Ogledd Cymru a rhanbarthau eraill yn dychwelyd i ymweld â ni eto.”
Yn ystod oriau’r dydd dyw’r Eisteddfod heb eifeithio ar fusnes Andy o Andy’s taxi, Cwrt Pandora, Pentre Doc y Gogledd, Llanelli, ond gyda’r hwyr mae wedi cael effaith eithriadol o dda.
“Fel arfer, ‘da ni’n cau am hanner nos, ond gyda phobl o Faes B nawr rydym yn aros ar agor tan oriau mân y bore. Rwy’n gwybod y cafodd fy ngyrrwr tacsi noson dda iawn neithiwr, roedd e mas tan bump y bore!” meddai Andy.
Un person sy’n falch iawn bod yr Eisteddfod wedi ymweld â’r dref yw Christine Langley o’r Thomas Arms, Thomas St, Llanelli.
“Mae busnes trwy’r wythnos ma’ wedi bod yn wych – yn y nosweithiau yn bennaf. Mae llawer fwy o gwsmeriaid oherwydd wnaethom gynnal gigs Cymdeithas yr Iaith yma bob nos heb law am ddydd Mercher, felly mae’r dafarn wedi bod yn brysur iawn!” medd Christine.
“Mae busnes wedi bod yn fyrlymus, yn hollol wyllt!”
Dywedodd bod y Thomas Arms wedi derbyn llawer o ganmoliaeth oddi wrth y cwsmeriaid a’i bod yn gobeithio y bydd 30% o bobl sy’n ymweld â’r dref yr wythnos ma’ yn dychwelyd.
“Heb os, mae’r Eisteddfod wedi bod yn beth gwych ar gyfer ardal Llanelli!” meddai “Mae’r dref yn fywiog iawn, mae’n gwneud i mi deimlo’n falch iawn i ddod o Lanelli. Mae awyrgylch ardderchog yma’r wythnos hon.”
Mae Parc Sglefrio ‘Ramps’ yn Llanelli wedi ceisio manteisio ar y mewnlifiad o ymwelwyr i’r ardal ac wedi bod yn codi £5 y dydd i barcio. Lleolir ar Sandpiper Road, Llanelli a fe wnes i siarad gydag Adam, goruchwyliwr ‘Ramps’ heddiw.
“Mae busnes wedi bod yn iawn. ‘Da ni’n codi £5 y dydd, ac ar gyfartaledd rydym wedi creu tua £30-£35 y dydd. Mae pobl yn tueddu dod i mewn a gofyn pa mor bell ydy hi i gerdded i’r maes ac wedyn yn gadael oherwydd bod e’n rhy bell i gerdded. Yn y pen draw felly maen nhw’n mynd i’r llefydd parcio a drefnwyd am yr ŵyl yn barod.”
Ychwannegodd Adam: ”Roedd trefnu’r maes parcio yn benderfyniad munud olaf gan fy rheolwr tua dau ddiwrnod cyn i’r Eisteddfod ddechrau.
“Roedd e’n gyrru i mewn i’r gwaith, ac yna gwelodd yr holl bebyll ac arwyddion parcio ceir yn cael eu codi.”
“Yr unig beth ‘da ni wedi sylwi yw bod y gwasanaeth llogi beiciau yma wedi bod yn brysur iawn yr wythnos hon gydag ymwelwyr.”
Benwythnos diwethaf oedd y prysura i siop nwyddau pert ac anrhegion Emilia May Gifts, Uned 14a St. Elli Centre, Llanelli. Siaradodd Jonathan o’r siop â ni: “Mae busnes wedi bod yn iawn, ychydig i lawr o benwythnos diwethaf ond dal yn gyson. Roedd llawer o bobl yn y siop wythnos diwethaf a ddaeth i’r dref mewn paratoad i’r Eisteddfod.
“Dwi’m yn gweld pam na fydd pobl yn dychwelyd. Mae gan Lanelli lawer mwy i’w gynnig nag erioed o’r blaen ac mae’r ymwelwyr wedi gallu gweld hwn nawr.”
Yn anffodus mae’r ganolfan Hamdden wedi gorfod troi pobl i ffrwdd yr wythnos yma gan fod y pwll nofio ar gau. Dywedodd Darryl Owen-o’r Ganolfan Hamdden: “Ry’ ni wedi cael pobl yn ffonio ac yn gofyn am y pwll ond yn anffodud mae ar gau yn bresennol.” dywedodd “Mae’r Eisteddfod yn bendant yn tynnu pobl, na fyddant yn ymweld fel, rheol i’r ardal.”
Mae Prifysgol Bangor hefyd yn ymchwilio i’ r effaith mae’r Eisteddfod wedi ei gael ar Sir Gâr.
Gan ystyried pob darn o dystiolaeth mae’n amser ateb y cwestiwn a ofynnir ar ddechrau’r erthygl yma. Ac o’r hyn mae Llais y Maes wedi ei weld a’i glywed byddem yn cadarnhau mai nid yn unig Eisteddfotwyr sydd yn elwa ond yn sicr yr ardal ehangach hefyd -mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.
Esther Strange & Morgan Towler
Comment on this article