Bu dros fil o bobl a sefydliadau lleol yn gorymdeithio drwy dref Caerfyrddin heddiw (29 Mehefin) wrth i seremoni Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr gael ei chynnal yn y dref. Daeth cannoedd yn fwy o bobl i Gaerfyrddin i fwynhau’r seremoni a’r diwrnod o adloniant i’r teulu, wrth i bawb ddathlu dyfodiad y Brifwyl i’r sir ym mis Awst y flwyddyn nesaf.
Bu Gorsedd y Beirdd yn gorymdeithio drwy’r dref cyn cynnal y seremoni Gyhoeddi ym mharc y dref ac roedd y seremoni eleni’n arwyddocaol, wrth i Archdderwydd newydd gael ei hurddo i’r swydd. Dyma’r tro cyntaf erioed i ferch ddal swydd yr Archdderwydd, gan dorri ar draddodiad cannoedd o flynyddoedd, a bydd yr Archdderwydd Christine yn gyfrifol am yr Orsedd a’i seremonïau am y tair blynedd nesaf.
Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, “Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod arbennig iawn, ac yn ein hatgoffa o bwysigrwydd yr Eisteddfod fel gŵyl deithiol. Daeth pobl o bob cwr o’r sir at ei gilydd i dref Caerfyrddin heddiw, i ddathlu cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Gâr y flwyddyn nesaf. Roedd ‘na awyrgylch ardderchog ar hyd a lled y dref, a theimlad o ddathlu ac edrych ymlaen. Diolch i bawb a ddaeth atom i’n cefnogi, ac a fu’n rhan o’i wneud yn ddiwrnod mor lwyddiannus.
“Mae Seremoni’r Cyhoeddi’n gyfle i ni dynnu sylw at yr Eisteddfod yn lleol, ond yn fwy na hynny, dyma pryd y cyhoeddir y Rhestr Testunau am y tro cyntaf. Mae’r rhestr ar werth ar hyd a lled Cymru rwan, ac fe fydd beirdd a llenorion – a chantorion o fri, gobeithio – yn mynd ati i astudio’r cystadlaethau, gan obeithio y cawn nifer fawr o gystadleuwyr a theilyngdod yn y seremonïau, a fydd dan ofal yr Archdderwydd newydd, Christine, y flwyddyn nesaf.
“Rydym yn dra diolchgar i Gyngor Tref Caerfyrddin am eu holl gymorth a chefnogaeth wrth drefnu’r gweithgareddau heddiw. Gweithiodd y Cyngor yn ddi-flino i’n cefnogi ac i sicrhau llwyddiant y diwrnod. Hefyd felly y Cyngor Sir, sydd wedi bod yn gadarn eu cefnogaeth a’u cymorth ers y cychwyn ac wedi hwyluso’r gwaith o gyrraedd heddiw yn arw iawn.
“Ond mae’r diolch mwyaf i bobl Sir Gâr, i’r gymuned leol ac i’r cannoedd o unigolion lleol sydd wedi gwirfoddoli ac wedi ein cefnogi dros y chwe mis diwethaf. Mae’n bleser cael cyhoeddi bod y Gronfa Leol wedi cyrraedd £100,000 yn barod, gyda mwy na blwyddyn i fynd cyn cychwyn yr Eisteddfod. Mae hyn yn gychwyn arbennig o dda i’r gwaith, a llongyfarchiadau mawr ar hynny. Edrychwn ymlaen i gydweithio ymhellach dros y flwyddyn nesaf a sicrhau wythnos lwyddiannus iawn yn Llanelli o 1-9 Awst 2014.”
Comment on this article