Llongyfarchiadau mawr i ‘Lost in Chemistry’ enillwyr Brwydr y Bandiau Eisteddfod Genedlaethol 2015. Nos Fawrth oedd y tro cyntaf i’r band berfformio o flaen gynulleidfa yn Gymraeg, ond yn nol ei berfformiadau hyderus neithiwr nid oedd unrhyw nerfau am ganu yn Gymraeg yn dangos. Roedd ei llwyddiant neithiwr yn hollol annisgwyl i’r band wrth iddynt drydar bod y canlyniad yn ‘Hollol anghredadwy’.
Ers lansiad Brwydr y Bandiau yn 2008, mewn partneriaeth ag Mentrau Iaith a Radio Cymru, wedi mynd o nerth i nerth ac yn gyfrifol am fentora rhai o fandiau mwyaf llwyddiannus Cymru. Cynhaliwyd y noswyl o gerddoriaeth yn flynyddol ar Lwyfan y Maes, ac mae’ bandiau yn teithio o Gymru gyfan er mwyn cystadlu yn erbyn eu gilydd am y teitl.
Eleni, oedd trefnwyr Brwydr y Bandiau am sicrhau bod y gystadleuaeth yn cynnig mwy o gyfleoedd nag erioed o’r blaen. Bellach, mae’n weithdy sy’n ceisio datblygu a helpu talent Cymraeg cyn mynd ymlaen i berfformio ar Lwyfan y Maes.
Un o’r profiadau mwyaf gwerthfawr i’r bandiau blwyddyn yma oedd sesiynau mentora gyda Mei Gwynedd gyda ‘Lost in Chemistry’ yn dweud bod ei gyngor wedi bod yn holl bwysig i ddatblygu ei sgiliau perfformio ac yn ddiolchgar iawn iddo fe.
Mae’r prosiect eisoes wedi pwysleisio pwysigrwydd hybu cerddorion ifanc er mwy sicrhau dyfodol disglair i sin cerddoriaeth Cymraeg.
Mae Bromas, band o fois o ardal Sir Gar a Chastell Nedd, yn dystiolaeth o ddylanwad amhrisiadwy ennill Brwydr y Bandiau. Ers ei llwyddiant yn 2012 mae poblogrwydd y band wedi mynd o nerth i nerth wrth iddynt gigio ar draws Gymru yn perfformio i gynulleidfaoedd mawr.
Mae’r band yn cydnabod mae Brwydr y Bandiau wnaeth rhoi “kick start” i’w gyrfa a bod y mil o bunnoedd a rhoddwyd iddynt fel enillwyr wedi caniatáu iddynt fuddsoddi arian yn y band. Mae’r arian wedi galluogi iddynt brynu offerynnau newydd a’r cyfle i fynd i stiwdio recordio am y tro cyntaf er mwyn gweithio ar ei albwm cyntaf.
I’r bandiau, un o’r profiadau mwyaf cyffrous sy ddod ag ennill Brwydr y Bandiau yw’r cyfle i chwarae ar lwyfan Maes B ar noson olaf yr ŵyl, nos Sadwrn. Mae enillwyr eleni methu aros i berfformio i “ein dorf fwyaf yn Maes B ar dydd Sadwrn! 2000 pobol! Bloody hell [sic]” fel rhan o ‘line up’ ymysg nifer o gystadleuwyr y gorffennol.
Yn amlwg, mae Brwydr y Bandiau yn brosiect hynod o werthfawr i gerddorion Cymru sy’n cynnig amrywiaeth o brofiadau amhrisiadwy. Yn sicr, mae dyfodol ‘Lost in Chemistry’ yn un disglair.
Comment on this article