Mae gan Y Fenni ‘Banksy’ lleol sydd wedi bod yn brysur yn paratoi croeso unigryw ar gyfer Eisteddfod 2016.
Mae dyn anhysbys wedi creu Croeso enfawr ar Fryn y Deri. Mae’r arwydd yn gallu cael ei weld yn glir o fynedfa’r Eisteddfod i groesawu pawb i’r ŵyl.
Rwy’n dod o’r ardal hon ac wedi gweld y ffigwr yn gweithio ar y bryn dros y blynyddoedd dwethaf. Mae Banksy’r Fenni wedi bod wrthi’n creu’r wyneb hapus ar y bryn am bum mlynedd ond does neb yn gwybod pwy sy’n gyfrifol am y gelf unigryw.
Byddai Llais y Maes wrth ein boddau i ddarganfod pwy yw’r arlunwr. Oes gyda chi syniad pwy sy’n gyfrifol? Anfonwch neges atom @llaisymaes neu mae yna groeso i chi yn ein swyddfa ym mhabell @prifysgolCdydd
Comment on this article