Y bore ‘ma, roedd trafodaeth ynglŷn â Brexit. Roedd yr ystafell yn llawn sy’n pwysleisio pa mor bwysig yw Brexit i’r Cymry. Rydw i’n byw yng Nghasnewydd, dinas sydd wedi pleidlais allan o’r Undeb Ewropeaidd. Rydw i newydd fod i drafodaeth “Brexit pia ni. Ond beth mae Brexit yn ei olygu?” Roedd Gareth Hughes yn cadeirio gyda Richard Wyn Jones a Richard Scully ar y panel.
Roedd yn ddiddorol gweld y drafodaeth ynglŷn â beth fydd yn digwydd i Gymru a beth ddylwn i ddisgwyl o’r bleidlais. Yn anfoddus, mae’r drafodaeth wedi pwysleisio pa mor ansicr yw’r dyfodol i’r Deyrnas Unedig ac yn enwedig, i Gymru.
I ddechrau, mae’r panel wedi esbonio rhai o ganlyniadau ‘The Future of England survey.’ Roedd yr ymateb yn ddryslyd iawn a doedd na ddim ateb penodol. Ym marn Richard Wyn Jones, mae’r dryswch hwn yn ‘adlewyrchu’r realiti gwleidyddol’ ar hyn o bryd, a bod dim cynllun na disgwyliadau penodol. Felly, mae’n newyddion drwg i ni, y bobl ifanc sydd heb wybodaeth o beth i ddisgwyl neu beth fydd ein dyfodol. Ond, nid bai’r gwleidyddion yw’r ansicrwydd i gyd. Mae’n rhaid i wleidyddion deall a gwybod beth mae’r cyhoedd eisiau. Mae’n creu cylch peryglus oherwydd sut gall y cyhoedd gael cyfle i bortreadu eu teimladau i wleidyddion?
Wrth drafod Cymru yn benodol, dywedodd Richard Wyn Jones fod ymateb Llywodraeth Cymru wedi bod ‘wan’ iawn a’i bod wedi ‘anwybyddu’r’ refferendwm. Mae’r anwybodaeth hon wedi cael ei bortreadu trwy’r ‘diffyg ymateb’ gan Lywodraeth Cymru. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth yn y Deyrnas Unedig a Chymru. Felly, mae’n fy mhoeni i nad yw Cymru yn cael ei chynrychioli yn San Steffan. Wrth feddwl am yr Alban, mae ‘sefyllfa Cymru yn lot gwanaf na’r Alban’ meddai Richard Wyn Jones. Dywedodd Yr Athro hefyd fod llais yr Alban yn cael dylanwad ar y drafodaeth rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig ar ôl y bleidlais i adael. Fodd bynnag, ble mae Cymru yn sefyll yn y drafodaeth?
Un peth rydw i wedi sylweddoli yw pwysigrwydd newyddiaduraeth er mwyn addysgu pobl a sicrhau bod pobl yn gwybod y ffeithiau cyn ac ar ôl gwneud penderfyniadau mawr. Roedd yn braf gweld trafodaeth rhwng y cyhoedd ac arbenigwyr i ddangos fod y bwlch yn gallu lleihau a phobl yn gallu lleisio eu barn.
Comment on this article