Ddoe am 11.00y.b. yn y Sinemaes, rhagolwg ail gyfres Parch oedd wrth y llyw!
Roedd y Sinemaes yn llawn dop gyda phob sedd wedi ei llenwi a phawb yn awchu i ddarganfod atebion ers y gyfres ddiwethaf.
Roedd Fflur Dafydd yr awdures yn bresennol ynghyd â’r cyfarwyddwr Rhys Powys i roi gair cyflym am gefndir y bennod ar ddechrau’r sesiwn. Braf iawn hefyd oedd gweld rhieni Carys Eleri, prif actores ‘Parch’, yn gwenu o glust i glust drwy gydol y perfformiad.
Heb unrhyw syndod, doedd y bennod gyntaf ddim yn siomi! Wedi awr o hiwmor ag amwysedd, roedd y gynulleidfa yn barod yn eistedd ar flaen eu sedd eisiau gwybod mwy! Roedd y gymeradwyaeth ar ddiwedd y rhagolwg hefyd yn brawf fod y gynulleidfa wedi eu plesio!
Rhaid canmol lleoliad y digwyddiad yn ogystal. Roedd y Sinemaes, â oedd mewn tipi, wir yn creu awyrgylch cynnes a phwrpasol ac yn cynnig rhywbeth gwahanol, modern i faes yr Eisteddfod.
Safonol iawn oedd y llun ar y sgrin, yn ogystal â’r sain a’r goleuadau! Profiad braf dros ben, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld y gyfres.
Comment on this article