Helo! Aled Russell dwi a dwi’n dod o’r Wyddgrug, sef tref yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Yn wreiddiol o Awstralia, dwi’n medru yn y Gymraeg oherwydd dyfalbarhad fy annwyl fam i siarad Cymraeg i fi fel babi, hyd yn oed yn Awstralia. Er i mi gael fy addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg (eironi), dwi’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwylliant. Fy mhrif diddordebau yw pêl droed, gwleidyddiaeth a cherddoriaeth. Serch hyn fedrai’m chwarae ddim un offeryn cerddorol a dwi’n baio hynny yn hollol ar fy niffyg amynedd. Yn weddol newydd i’r sîn gerddoriaeth Gymraeg ar ôl cael fy machu gan un o ganeuon Sŵnami yn 2015, Maes B ydi un o uchafbwyntiau fy mlwyddyn.
@aledhuw_
Comment on this article