Mewn cyfweliad gyda Llais Y Maes, mynegodd Prif Weinidog Carwyn Jones ei siom ym mhenderfyniad Sports Direct Bangor i orfodi staff i siarad Saesneg yn unig yn ystod oriau gwaith.
Galwodd y gwahardd ar y Gymraeg yn ‘hollol annerbyniol’ gan ddweud bod gan ‘pobl yr hawl i siarad iaith eu hunain yng ngwlad eu hunain’. Yn ôl y Prif Weinidog, mae angen i Sports Direct ‘newid hyn’ a gofynodd os mai gwaharddiad lleol neu un cenedlaethol oedd mewn lle, gan ddweud ei fod hi’n bosib fod penderfyniad lleol yn ‘waeth fyth’, oherwydd y nifer o siaradwyr Cymraeg yn yr ardal leol.
Mewn datganiad, dywedodd Sports Direct: ‘Saesneg yw’r iaith mwyaf cyffredin ymysg ein staff amlieithog ac felly staff ac felly yn y fwyaf tebygol o chael ei ddeallt gan bawb’. Yn ogystal a hynny, dywedynt fod y polisi yno i gadarnhau fod cyfarwyddiadau iechyd a diogelwch yn cael eu ddeallt gan bawb. Aethynt ymlaen i bwysleisio mai ‘nid i gyfyngu ar y defnydd o’r Gymraeg oedd bwriad y sylw a ddosbarthwyd’ ac eu bod am ‘adolygu geiriad y sylw’.
Comment on this article