Neuadd Cefneithin yw Hafan Hardda’ Sir Gâr – yn ôl beirniaid y gystadleuaeth i gymunedau’r sir yn arwain at yr Eisteddfod Genedlaethol. Nod cystadleuaeth ‘Hafan Hardda Sir Gâr’ oedd annog cymunedau ledled y sir i wisgo eu hardal i fyny yn barod i ddathlu dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol i’r sir. Roedd yn gamp enfawr ar gyfer mwyafrif y pwyllgorau apêl i gyrraedd, a rhagori ar eu targedau ariannol. Dyma gyfle felly i ddathlu’r gwaith caled a brwdfrydedd. Nod y gystadleuaeth hon oedd sicrhau bod Sir Gaerfyrddin yn rhoi croeso Cymreig cynnes i’r Eisteddfod Genedlaethol. Beirniadwyd y gystadleuaeth ar ddydd Llun 28 Gorffennaf, wrth i Gadeirydd y Cyngor Sir, y cynghorydd Daff Davies, ymuno â Sulwyn Thomas y darlledwr Cymreig eiconig a Jean Oliver gwirfoddolwraig o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar daith o gwmpas y Sir i ddod o hyd i’r Hafan Hardda’. Y neuadd, Cefneithin, oedd dewis unfrydol y beirniaid i ennill i plac, a noddwyd gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Dywedodd Sulwyn Thomas ar ran y beiniaid: “Cefneithin oedd dewis pob un ohonon ni. Roedden nhw wedi defnyddio’u dychymyg wrth addurno’r Neuadd a’r tir o’i hamgylch. Roedd arwydd yn croesawu’r Eisteddfod a’r Eisteddfodwyr ac yn gwneud yn glir beth roedden nhw’n dathlu.” Ychwanegodd bod sawl ardal arall wedi ei haddurno’n dda ac yn edrych yn hyfryd ond neb yn gystal â Chefneithin.
3 August 2014
Comment on this article