Ma’ bawb yn hoffi pitsa, nagyn nhw? Wel ar y maes lenni ma’ gyda ni’r real deal, yn Pitsa Ffwrn Goed Ambers. Ma’ ‘na amrywiaeth ar gael, o’r clasuron: eich margaritas a’ch pepperonis, £6/7; i’r gwahanol: brie, corbwmpen a siytni winwns, £9. Gan ‘mod i’n tipyn o snob pan mae’n dod i fwyd, yn amlwg o’dd rhaid i fi fynd am yr un fwyaf gwahanol. Y pitsa ffigysen, caws gafr, proscuitto, olewydd a roced yw’r dewis mwya drud ar y fwydlen, am £10. Mae’r cynhwysion yn swnio’n apelgar a diddorol, a’r cyfuniadau annisgwyl yn codi chwant trial rhywbeth newydd – byth i mi ddod ar draws ffigysen ar bitsa o’r blaen. Rhaid dweud, dwi’n weddol sicr i mi wneud y dewis cywir, dewis weddol anodd o ystyried fod y stondin bach yn cynnig gymaint o ddewisiadau gwahanol. Ro’dd y ffigysen yn cyfuno’n hyfryd â’r caws gafr, a’r proscuitto yn ychwanegu haenen galonnog i’r pitsa oedd ar y cyfan yn ysgafn. Piti am y roced, nad oedd yn creinsio fel y dylai – o’dd e i’w weld yn eithaf hen a dweud y gwir. Ydy, mae £10 yn weddol ddrud, ond fel dwi’n dweud pob dydd, mae’r pentref bwyd yn union hynny. Mae’r pitsa’n weddol fawr, yn ddigon rhwng dau efallai (yn dibynnu pwy yw’r ddau wrth gwrs). O’dd y pitsa’n gynnes, yn ddeniadol ac yn edrych yn teimlo fel pitsa dilys; pitsa go iawn.
Pitsa!
6 August 2014
Comment on this article