Efallai mai cynamserol yw cyhoeddi yr ysgrif hwn ynghylch trafnidiaeth bysiau gwenol yr Eisteddfod ar ail ddiwrnod yr Wyl, ond yn ystod y 24 awr diwethaf mae trafnidiaeth yr Eisteddfod wedi bod yn bwnc llosg ar gyfryngau cymdeithasol megis Twitter a Facebook, a hefyd yn gwyn cyson ymysg yr Eisteddfodwyr.
Ymddiheurodd yr Eisteddfod ar ei tudalen Facebook am 7:01 y.h. neithiwr gan addo ei bod yn gwneud ei gorau i ddatrys y broblem. Cafwyd 34 o ymatebion cymysg i’r datganiad gyda Ysgol Farddol Caerfyrddin yn cyfannu’r cyfan gyda chwpled ddychanol: “Bu oes cyn daeth y bysiau, yna’n dwt cyrhaeddodd dau” (Facebook).
O fy mhrofiad i, dyna’n union sut y bu. Gadawais allanfa yr Eisteddfod toc wedi chwech o’r gloch gyda’r bwriad o wibio yn ôl i Gaerdydd erbyn amser swper, ond yn wir, awr yn ddiweddarach roeddwn yn dal ger yr allanfa ac ar lwgu erbyn hyn. Ond fel a addawodd yr Eisteddfod yn ei datganiad Facebook, daeth y bysiau yn eu niferoedd i’n cludo yn ôl at ein ceir. Er imi gwyno yn fwy na neb yn ystod yr awr hir honno, roedd digon o hwyl i’w gael wrth aros am y bws a roedd yr haul, diolch i’r nefoedd, yn gwenu arnom. Byddai wedi bod yn stori tra wahanol petai fy awr o aros am y bws wedi bod mewn gwynt a glaw fel y gwelwyd yn ystod y prynhawn hwnnw!
Fodd bynnag, ar nodyn mwy difrofol, i’r ifanc, nid oes achos i ni gwyno yn ormodol am orfod sefyll ar ein traed am dros awr, ond i’r henoed mae’n fater arall. Gobeithio yn wir felly y bydd yr Eisteddfod yn darparu mwy o fysiau gwenol yn ystod yr amseroedd prysur hynny, megis 6 y.h. pam mae cynifer yn ymadael â’r maes. Gyda lwc ni fydd achos i ni leisio cwyn am hyn eto, a mae diolch i’r Eisteddfod a’m drafnidiaeth hwylus y bydd yr Eisteddfodwyr am weddill yr wythnos.
Comment on this article