Roeddwn i’n edrych ymlaen at weld La Primera Cena, y ddrama a enillodd y fedal ddrama blwyddyn diwethaf gan Dewi Wyn Williams. Ond, roedd hi’n anodd gwerthfawrogi perfformiad pwerus yr actorion yn ei chyflawnder o gefn y cwt drama. Unwaith eto roedd y perfformiad yma wedi gwerthu allan.
Sbarduno Atgofion o Wersi Drama
Wrth gerdded i fewn i’r cwt , roedd y llenni ffelt du a’r llwyfan yn fy hatgoffa o wersi drama yn yr ysgol. Teimlais bod y lleoliad unigryw yn amharu ar botensial y ddrama . Er hyn, dwi’n deall mae’n rhaid i’r gwagle fod yn hyblyg, oherwydd bod perfformiadau gwahanol yno drwy’r wythnos.
Defnydd Crefftus o Symbolau
Roeddwn i’n hoffi’r defnydd o feic i symboleiddio perthynas anodd rhwng Brian ac Aric. Byddaf wedi hoffi’r ddrama’n fwy petawn i’n medru ei gweld yn iawn. O le roeddwn i’n eistedd ni allwn i weld y llwyfan i gyd. Siom oedd methu gweld y ddrama’n glir ac roedd y set yn tynnu o grefft yr actorion. Yn anffodus roedd y llwyfannu yn siomedig.
Perfformiad Cryf o Destyn Gair Cyfoethog
Roedd perfformiad Martin Thomas o Aric, mab yn cwrdd â’i dad fel oedolyn, yn wefreiddiol iawn. Wnes i gydymdeimlo gyda chymeriad Aric mwyaf. Roedd y sgript yn gryf iawn a llwyddodd y cast i berfformio hynny’n dda. Roedd perfformiad actorion fel Martin Thomas yn wych.
Ar y cyfan, roedd hi’n berfformiad cadarnhaol, gan gofio mai hon oedd y cynhyrchiad cyntaf o’r ddrama. Mae’n siom bod y set wedi bod yn gymaint o rwystr ar yr actorion. Dwi wastad yn credu mi ddyle chi deimlo rhywbeth ar ôl gwylio drama, ond yn anffodus doess La Primera Cena ddim wedi cael yr effaith arna i.
Comment on this article