Mae’r BBC newydd lansio ei ap Cymrag cyntaf erioed ym mhabell BBC Radio Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llanelli. Yr ap yw’r cynnyrch diweddaraf gan BBC Cymru Fyw gyda Huw Edwards yn cyfeirio ato fel carreg filltir yn hanes yr iaith. Siân Gwynedd oedd yn cyflwyno cefndir yr ap gyda Huw Meredydd Roberts yn dangos yr ap ar waith. Mae’r ap hwn yn gasgliad cynhwysfawr o’r straeon diweddaraf o Gymru, yn ogystal â chynnwys newyddion ar-lein sydd y tu hwnt i’r BBC, megis newyddion o wefan S4C, yr Eisteddfod a’r Daily Post. Mae’r ap ar gael i’w lawrlwytho am ddim ar ddyfeisiau Android ac iPhone ac yn hawdd i’w ddilyn. Esboniodd Siân Gwynedd fod technoleg yn datblygu mor gyflym ar hyn o bryd fod perygl i Gymru gael ei gadael ar ei hôl. Wrth gofio yn ôl i’r flwyddyn 2000 pan fu’r Eisteddfod yma yn Llanelli ddiwethaf, ni wyddodd neb am ipad a tablet, a nid oedd gwefannau megis Facebook a Twitter wedi eu sefydlu – dim ond adar oedd yn trydaru bryd hynny! Dyma ap sy’n sicrhau bod y Gymraeg yn symud gyda’r oes ac yn darparu i bobl Cymru dechnoleg sy’n wybus iddynt eisoes yn y Saesneg, yn y Gymraeg hefyd – cerwch i’w lawrlwytho da chi!
Comment on this article