Mae’n dda o beth fod The Pembrokeshire Beach Food Company yn y Pentref Bwyd eleni, â’r Eisteddfod wedi’i leoli mor agos i draeth Llanelli. Dyma’i ail waith nhw yn yr Eisteddfod, ac maen nhw’n cynnig arlwy o fwyd sy’n hollol unigryw ar y maes.
Fel mae’r enw’n awgrymu, maen nhw’n dod o Sir Benfro, ac yn cael y rhan fwyaf o’r bwyd yn lleol o fynna. Ei bwriad yw cyfuno cynhwysion traddodiadol gydag arddull gyfoes, ac mae’r canlyniad yn flasus a chyffrous.
Enghreifftiau da sy’n adlewyrchu’r uniad arbennig rhwng y traddodiadol a’r cyfoes yw eu wrapiau glan y môr. Mae dewis o dri llenwad, sy’n dod yn dwt mewn rolyn bara fflat yn ffres ac yn dwym o’r popty. Er i mi ofyn am y llenwad cocos, bacwn a bara lawr, eu prif werthwr ddoe ar y maes, fe dderbyniais i’r un eog, caws a bara lawr. Er hynny, ni chefais i fy siomi ddigon i fynd nôl i gyfnewid y rôl – ond gwnewch yn siŵr eich bod chi’n derbyn yr archeb a gofynnwyd amdani. Am £5 mae ddigon teg, o ystyried prisiau drudfawr y pentref bwyd, ac mae ansawdd a blas y rolyn yn arbennig. Mae’n hawdd i’w fwyta ar frys neu gan gymryd eich amser, ac fe ddaeth gwên ar fy ngwyneb o’i fwyta.
Mae’n bleser cael gweld stondin sydd mor angerddol am eu cynnyrch ym mhentref bwyd yr Eisteddfod, ac mae’n hollol berthnas ol i awyr môr y maes. Er nad oedd ‘diolch’ na ‘chroeso’ i’w glywed ar ddechrau’r dydd, erbyn y nos roedd yna fwy o ymdrech ac roedd Amy Gwither, rheolwraig y stondin, yn barod i siarad am y fwydlen a’r cwmni.
Blasus a gwreiddiol gyda thinc traddodiadol yn cuddio tu ôl i’r gwedd gyfoes – yr unig le i gael bwyd môr ar y maes eleni.
Comment on this article