Heddiw, mi wnes i ‘eistedd a gwrando ar Mair Thomas Ifans, cantores a storïwr bendigedig. Yn y Tŷ Gwerin am dri o’r gloch heddiw roedd sesiwn ar hen chwedlau Sir Gaerfyrddin. Fel cynulleidfa, fe glywsem ni alaw ar delyn gan Mair a wrandawon ni i sawl chwedl wedi areithio’n wych ganddi. Roedd y chwedlau’n amrywio o hen stori am Betsan Puw o blasdu crand i Dewi ap Iago a wnaeth dianc am saith blynedd a marw ar ôl dawnsio ac ymuno thylwyth teg un noson – rhyfedd iawn dwi’n addo. Roedd y perfformiad yn hollol ddi-fai, heb wall ac yn diddanu’r holl babell gyda’i pherfformiad unigryw comedïaidd iawn. Mae Mair yn wreiddiol o Sir Feirionnydd, ac yn ati’n mwynhau ei hwythnos ar y maes. Ma’ Mair hyd yn oed yn aros am wythnos ychwanegol lawr yn Sir Gar’ gan fod hi’n wrth ei bodd cymaint yma. Mae’n hefyd yn cystadlu gan ganu gwerin. Ofynnais iddi sut fias hi’n ffeindio’r maes eleni a ni ellir canmol yn ddigon. Dywedodd Mair, ‘Mae pawb ar y maes yn groesawgar, ma ‘neb yn flin nac yn gas’. Mae hi’n annog pawb i ddod draw am ddiwrnod gwych ar y maes.
Mae Tŷ Gwerin wedi’i ddatblygu’n bellach y flwyddyn yma gan dderbyn sawl sylw positif o Eisteddfodwyr. Mae’n le trawiadol tu hwnt, lle prydferth sydd yn denu ymwelwyr i mewn i’r babell. Nod y prosiect yw hybu a datblygu traddodiadau werin fel ei bod nhw’n presennol i bobl ifanc a’r cenhedlaeth i ddod. Mae’r Tŷ Gwerin yn cynnal sesiynau sgwrsio gyda phanel proffesiynol, perfformiadau o fandiau cyfoes a hefyd gweithdai offerynnol a lleisiol yn ogystal â chystadlaethau gwerin. Y syniad yw dod â cherddoriaeth gwerin nôl i’r bobl mewn ffordd lai traddodiadol. Mae’n ymgyrch i ddod â naws fwy anffurfiol i gerddoriaeth gwerin. Wrth drafod gyda threfnwyr y babell benodol yma, mae’n glir i weld taw waith caled, caled iawn sydd wedi mynd i mewn i drefnu a pherffeithio edrychiad y babell ynghyd â’r amserlen. Mae’r prosiect yn bartneriaeth gyda’r Eisteddfod Genedlaethol, cymdeithas dawnswyr, CLERA a TRAC (gwaith clôs gyda Sioned Edwards.)
Mi wnaeth Mair nodi bod llyfr “mi glywais i” gan Eirys Evans yn ‘werth y byd’, llyfr llawn chwedlau am draddodiadau cyfoethog yr ardal Sir Gaerfyrddin. Soniodd am yr achlysuron lle fu’n mynychi bartïon gyda Meic Stevens yn Sir Benfro lle fu’n tyst i sawl tylwyth teg yn dawnsio o’i chwmpas ar ôl ychydig o gwrw (!)
Yn y Tŷ Gwerin, bydd digwyddiad y stomp cerdd dant ar nos Iau am 5:30 yn y babell a chyngerdd gwerin plant tua diwedd yr wythnos lle bu Mair Thomas Ifans yn bresennol ‘fyd i gal fach o hwyl. Dewch draw.
Fy nghyngor i ar gyfer unrhyw un sy’n ymweld â’r maes i fynychu perfformiad gan Mair ar Chwedlau Sir Gar’.
Comment on this article