I’r rheiny ohonoch na gafodd gyfle i weld drama ‘Llais’ gan Elgan Rhys ddydd Sul, mae cyfle arall i’w gweld yfory (5.8.14) am 11 y.b. ym mhabell y Theatr Genedlaethol. Dyma sgwrs fer gyda Elgan Rhys sy’n trafod yr ysbrydoliaeth tu cefn ei ddrama a’r ymateb y mae wedi derbyn iddi.
1. Pam benderfynaist ysgrifennu drama heb ddeialog?
Yn ystod fy nghyfnod ym Mhrifysgol De Cymru, roedd gofyn i ni greu darn theatraidd, 10 munud o hyd ar unrhyw beth. Wrth imi ymchwilio, mi wnes i ddod ar draws fidio Amanda Todd ar YouTube. Cefais fy nharo gan y ddelwedd ohoni yn dal cyfresi o ‘flashcards’ yn esbonio ei phrofiadau o gael ei bwlio. Roedd yr uingrwydd a’r diffyg cyfathrebwch yna yn dorcalonnus. O hynny, o’n i’n teimlo fel bod rhaid ymateb gan ddefnyddio fy mhrofiadau personol i. Gosodais un rheol i mi fy hun er mwyn atgyfnerthu y diffyg cyfathrebwch – ei fod yn ddarn gwbl di-lafar.
2. Wyt ti’n hapus gyda’r ymateb hyd yn hyn i dy ddrama?
Dw i, a gweddill y tîm – Gethin Evans (Cyfarwyddwr), Josh Bowles (Cerddor), Emily Butler (Rheolwr Llwyfan), Megan Price (Marchnata Digidol) – wedi ein gorlethu gyda’r ymateb hyd yn hyn. Ein bwriad yw bod y gynulleidfa ddim yn mynd i mewn i wylio’r perfformiad, a dyna ddiwedd arni – ar ôl pob perfformiad mae cyfle iddynt ymateb ar ‘flashcard’ eu hunain, i fynegi eu barn a’u teimladau. ‘Da ni’n hollol ddiolchgar i bawb sy’ wedi cefnogi’r cwmni a’r sioe hyd yn hyn.
3. Wyt ti’n teimlo bod cefogaeth yr Eisteddfod Genedlaethol yn rhoi hwb i ti fel dramodydd ifanc?
Mae’n gret cael y cyfle i berfformio ac arddangos ein gwaith yn yr Eisteddfod. ‘Da ni’n dîm bach, newydd, ac ifanc sy’n ysu i rannu ein gwaith gwreiddiol ac anghonfensiynol gyda chynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt.
Comment on this article