Dyma’r bws mini a fydd yn eich cludo yn ôl ac ymlaen i Maes B. Siwrnai 15 munud oedd y daith o’r Maes i Maes B. Tybed a fyddai’n syniad i’r Eisteddfod drefnu mwy nac un bws mini erbyn diwedd yr wythnos wrth i fwy a mwy o bobl ifanc Cymru ddod i’r Wyl..?
Os ydych yn gyrru i Maes B – byddwch yn barod i gwrdd â sawl car ar y ffordd un-ffordd…
Mae nifer wedi cyrraedd Maes B eisoes a wedi gosod eu pebyll…
Ger Prif Fynedfa Maes B, roedd nifer yn tywallt eu diodydd o’u poteli gwydr i gartonau llaeth…
Mae Maes B â rheol newydd eleni, sef nad oes poteli gwydr yn cael mynd ar y maes pebyll fel rhan o’i hymgyrch amgylchedd. Maent yn caniatâi caniau ond nid poteli gwydr. Mae Maes B yn darparu cartonau llaeth, ond er mwyn arbed amser, byddwn yn eich cynghori (y rheiny sy’n 18 oed!) i roi eich gwin, fodca, gin a.y.y.b mewn boteli plastig cyn cyrraedd yr Eisteddfod.
Cwestiwn y mae nifer yn holi bob blwyddyn: oes tân am fod yn Maes B? O oes!
Dyma ichi beth sydd ar gael yn y Gorlan eleni..
Ac i gloi.. mwynhewch eich hunain yn Maes B!
Comment on this article