Ym mhabell Maes D ar y maes heddiw, wnes i fynychu rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2014 er mwyn cwrdd a chlywed storïau y pedwar cystadleuydd.
Beirniaid y cystadleuaeth eleni yw Sian Jones, Heather Jones ac Aled Davies. Mae tlws Dysgwr y Flwyddyn yn rhoddedig gan Terry a Catrin Stevens, a’r wobr o £300 yn rhoddedig gan Eglwys Annibynnol Heol Awst, Caerfyrddin. Bydd y tri chystadleuydd arall yn y rownd derfynol yn derbyn £100 yr un gan Eglwys Annibynnol Heol Awst, a thlws yr un gan Terry a Catrin Stevens. Cafodd y pedwar o gystadleuwyr eu dewis allan o ddeunaw cyn-gystadleuwyr ym Mis Mai a gynhaliwyd yng Ngherddi Fotaneg Genedlaethol Cymru. Y bore ‘ma fe wnaeth y beirniaid cynnal cyfweliadau yng ngholeg Sir Gar’ cyn y rownd derfynol yma heddiw.
Presennol yn y pabell oedd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, a chyn cafodd y cyhoedd siawns i siarad a thrafod efo’r dysgwyr dywedodd ychydig o eiriau. Dywed fod hi’n “anrhydedd fawr” iddynt, a wnaeth llongyfarch hwy am eu holl gwaith caled. Esboniodd hefyd am ystyr geiriau’n newid wrth symud o’r gogledd i’r dde o Gymru. Ystyr ‘flin’ yng ngogledd Cymru yw grac ond yn y De mae’n meddwl eich fod chi’n sorri – un peth i gymryd i ffwrdd o’r iaith Gymraeg yw’r gwahaniaeth rhanbarthol ac i beidio gymysgu’r ddwy, dywed.
Ar ôl gyflwyniad byr am y dysgwyr, aeth y pedwar i’w gornelli unigol yn y pabell i groesawi cwestiynau o’r cyhoedd. Yn gyntaf, trafodais i gyda Holly – fenyw ifanc a wnaeth symud o Gymru i wlad yr Haf yn Loegr fel plentyn yn ddwy mlwydd oed. Mi wnaeth Holly cyflawni gradd Saesneg lenyddiaeth ym mhrifysgol Abertawe ac yna radd meistr yn ysgrifennu creadigol. Symudodd Holly yn ôl i Sir Benfro fel oedolyn. Gofynnais iddi beth oedd ei phrif ysbrydolaeth tu ôl i ddechrau dysgu Gymraeg ac atebodd yn syth, “wel, stori cymhleth iawn i ddweud y gwir”.
“Y prif peth sydd yn fy mwrw i yw’r amser pryd roeddwn i’n aelod o bwyllgor cymunedol yn trefnu gwyl yn Sir Benfro, a sylweddolais bod pawb arall medru siarad Cymraeg heb law am fi. Dim ond oherwydd fi roedd pawb yn siarad Saesneg yn y cyfarfod. Sylweddolais wedyn bod rhaid i mi gwneud ymdrech i ddysgu Cymraeg er mwyn bod yn digon rhygl i siarad yn y cyfarfodydd.” Mae Holly yn fenyw ifanc hyfryd, ac fel ei hamser cyntaf ar faes Eisteddfod Genedlaethol, mae’n profiad anhygoel iddi er bod ganddi amserlen brysur iawn.
Susan – Beth oedd dy prif rheswm i ddechrau dysgu Cymraeg? “Doeddwn i ddim moin unrhyw Cymro Cymraeg i siarad Saesneg er fy modd i’. Symudodd Susan i Gymru o Lundain yn 1985 a fynychwyd ei Eisteddfod cyntaf yn 1987, ac wedi bod yn mynychu pob tro fel arfer tra mae’r Eisteddfod yn y De.
Joella, nyrs sydd ar hyn o fryd yn ymgartrefu yng Nghaerdydd, oedd y trydydd dysgwr ces i’r bleser i’w ymweld. Prif ysbridolaeth Joella ar gyfer dechrau dysgu yr iaith oedd mater o hunaniaeth genedlaethol. Wrth deithio’r byd rhyng America, Awstralia, Lloegr a Malta, roedd pobl yn ofyn iddi os oedd hi’n gallu siarad Cymraeg gan fod hi’n Cymraes, a phob tro dywedodd Joella na a fu’n teimlo’n siomedig amdani. Roedd y ffaith bod ei ffrindiau’n llwyddo yn y lle gwaith gan fod nhw’n medru siarad Cymraeg yn ei sbarduno hi ymlaen i ddechrau dysgu Cymraeg. Mae Joella’n cymdeithasu hefo’i ffrindiau trwy gyfrwng y Gymraeg mewn gigs Cymraeg, yn yfed mewn clybiau Cymraeg ac yn defnyddio Facebook ac e-byst trwy’r gyfrwng hefyd. Dywed Joella am ba mor prysur yw hi tra’n ymarfer jiu jitsu a dysgu’r iaith cymraeg – “Dwi’n ‘neud rhywbeth trwy’r amser. Mae mam yn dweud, ‘you ought to chill out mun’!” Yn y dyfodol, mae Joella’n obeithiol o fod yn tiwtor Cymraeg gan ei fod hi’n mynychu cwrs tiwtor ym mis Medi.
Nigel – “Y rheswm pwysicaf wnes i benderfynu dysgu Cymraeg yw oherwydd bod mamiaith fy dau fab Rhys ac Ellis yw Cymraeg, ac wrth gwrs rydw i eisiau trafod gyda nhw yn yr iaith hefyd.” Mae Nigel wedi bod yn byw yng Nghymru am ugain o flynyddoedd pellach. Mae Nigel yn cyfarwyddwr anrheiddiol rhan amser ar fwrdd Principality. Mae’n dysgu Cymraeg tair bore yr wythnos.
Bydd enw’r enillydd eleni yn cael ei gyhoeddi yn y Noson Wobrwyo heno ym Mharc y Scarlets. Pob lwc i bob gystadleuydd a pharhewch i ddysgu y iaith gorau sydd!
Comment on this article