Pan gyrhaeddon i ar ddydd Sadwrn, un o’r pethau cyntaf welais i oedd y neges ‘croeso’ ar y bryn sydd yn edrych dros y maes. Mae’r neges mewn lleoliad perffaith i groesawu ymwelwyr i’r ‘Steddfod pan maen nhw’n cerdded drwy’r fynedfa. Credais i, a dwi’n siŵr llawer o bobl arall ‘fyd, mai’r Eisteddfod oedd wedi creu’r arwydd gwyn… ond roedd yn amlwg ar ôl i rhai o’r tîm ymuno a Ianto ar y Taith Tywys mae dirgel oedd yr arwydd a phwy wnaeth ei greu.
Wedi ychydig o ymchwil darganfyddom trwy Facebook taw ffermwyr lleol sydd wedi uno i greu’r gair enfawr ar gae ger y Maes. Felly ar ôl ychydig o waith ditectif … wnaethom ni ddarganfod mae Dyfrig Parcwilws, o Fferm Parcwilws, oedd yn gyfrifol am y darn o gelf tirwedd anhygoel yma. Felly cefais gyfweliad sydyn gyda’r dyn dirgel ar y ffon…
Mae’r arywdd wedi ei leoli ar Fferm Panthywel ac yr un maint a tri chae pêl droed . Mae wedi ei greu allan o fagiau plastig sy wedi ail-gylchu ac yn mesur 300 medr o un ochr i’r llall. Cafodd Dyfrig y syniad i greu’r ‘croeso’ tair mis yn ôl, a gyda’r help o’r gymuned, dechreuon nhw gasglu bagiau gwyn i ddefnyddio a chreu’r arwydd. Casglwyd dros 400 o fagiau a chymerodd 8 bobl bron wyth awr i greu’r atyniad sy’n unigryw i’r Eisteddfod .
Dywedodd Dyfrig roedd e eisiau creu rhywbeth arbenning er mwyn croesawu’r Eisteddfod nôl i’r Sir, oherwydd dydy’r ŵyl ddim wedi bod ‘ma ers 14 blynedd. Mae fe’n credu bod y prosiect wedi bod yn lwyddiant anferth . Mae’r gair yn olygfa ysblennydd o’r Maes ac wedi dod yn atyniad da i’r Eisteddfod eleni gyda phawb yn siarad amdano. .
Mae’r darn arloesol yn dystiolaeth i’r gwaith caled roedd pobl Llanelli wedi rhoi mewn i groesawu’r Eisteddfod i’r dref. Fel merch o Sir Gar fy hun, dwi mor falch i weld y bobl lleol yn dod at eu gilydd i greu rhywbeth mor unigryw a ddiddorol sydd yn rhoi Eisteddfod Sir Gaerfyrddin ar y map!
Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyfrannu, mae’r arwydd ‘croeso’ yn lwyddiant mawr ac mae tim Llais Y Maes wedi datrys y dirgelwch..
Comment on this article