Fi’n caru burritos. Yn amlwg felly ges i fy nghyffroi pan weles i El Salsa, stondin fwyd Mecsicanaidd yn y pentref bwyd ar y maes heddiw, yn cynnig yr union beth o’ ni wedi bod yn breuddwydio am fwyta ers dyddiau. Dyw burritos, a bwyd Mecsico ddim mor gyffredin â hynny yng Nghymru i gymharu â fwydydd o wledydd eraill, felly mae’n wledd i weld y bwyd ar gael yn y ‘Steddfod.
Mae’r criw yma o Aberteifi yn cynnig hwyl a lliw ar blat, gan frolio fod eu holl fwyd wedi’i baratoi ganddyn nhw yn ffres; o’r a’r ffa i’r guacamole a’r salsa.
Mae creu’r burrito berffaith yn gelfyddyd; yn grefft i’w fireinio a’i berffeithio. Mae’r mwynhad yn y burrito ei hun yn dibynnu yn rhannol ar ba mor dwt a thaclus yw’r burrito; pa mor compact yw’r llenwad yn y tortilla. Yn anffodus doeddwn i ddim yn teimlo fod El Salsa wedi perffeithio’r grefft hon gyda’r burrito mawr a gefais i. Roedd y llenwad yn gorlifo’n fuan ar ôl gychwyn, yn rhy sawslyd, ac erbyn y diwedd nid burrito mohono bellach a dweud y gwir.
Ond, nid yw hwn i ddweud nad oedd y burrito’n flasus. Mae dal digon i’w ddathlu am El Salsa.
Roedd y cynnwys yn flasus tu hwnt, yn gyfuniad cyfoethog o flasau a gweadau gwahanol: gwres yr jalapeños a ffresni’r salsa ac ansawdd y ffa a’r reis gyda’r stêc sbeislyd (sydd ddim rhy sbeislyd a dweud y gwir). Ac wrth aros am y bwyd roedd pob platiad a welais i’n edrych yn grêt, yn enwedig y quesadillas a’r platiad El Salsa. Yn ogystal, roedd y staff yn egnïol, yn frwdfrydig ac yn gyfeillgar – dwi’n credu’i bod nhw’n credu yn eu cynnyrch, ac mae hynny’n bwysig i stondin fwyd cyffelyb sy’n mynychu gwyliau gwahanol ledled Prydain.
Mae’r addewid o fwyd wedi’i baratoi yn ffres, mewn ffurf sy’n weddol newydd i’r Eisteddfod yn gyffrous, a dwi’n awgrymu i bawb i fynd ati i samplo’r bwyd. Mae’r stondin yn unigryw, y staff yn gyfeillgar ac yn cynnig bwyd o ansawdd arbennig.
El Salsa: bwyd Mecsicanaidd dilys o Orllewin Cymru, perffaith ar gyfer diwrnod braf ar y maes.
Comment on this article