Helo! Siwmae, Elin ydw i. Rydw i’n 20 oed, ac yn dod o’r Eglwys Newydd. Myfyrwraig yn adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd ydw i, ac yn ogystal rwy’n astudio cwpwl o fodiwlau newyddiaduraeth. Byddaf yn dechrau fy mlwyddyn olaf ym mis Medi.
Yn y gorffennol, bu’m yn cystadlu’n flynyddol yn yr Eisteddfod mewn cystadlaethau corawl ac offerynnol. Felly, rydw i’n edrych ymlaen yn fawr i gael y profiad newydd o chwilio am hanesion difyr o’r maes a datblygu fy sgiliau newyddiadurol.
Comment on this article