Mae heddiw yn un arbennig ar gyfer cerddoriaeth gwerin Cymreig gyda gig gwerin gynta yn y pafiliwn heno.. ac felly beth am ymweld â’r Tŷ Gwerin ar y maes.? Wedi ei leoli mewn cornel dawel ar y maes, mae’r Tŷ Werin yn torri’r distawrwydd. Trwy gydol yr wythnos mae adloniant gwerinol ar gael. Mae’r yurt gron yn ardal wych am baned a chyfle i ymlacio yn ogystal â mwynhau’r amrywiaeth o siaradwyr gwadd, cerddoriaeth fyw a dawns.
Eleni yw’r ail flwyddyn i’r Tŷ Gwerin ar y maes ac yn sicr mae’n hwb i ddiwylliant werin yr Eisteddfod. Mae’n ganolbwynt i gymdeithasau megis Clera, cymdeithas offerynnau traddodiadol, a Chymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru. Wrth siarad ag Elliw Iwan sy’n ynghlwm â Clera, dysgais yn wahanol i Eisteddfodau yn y gorffennol, mae’r Tŷ Gwerin yn llwyfan i berfformwyr gwerinol.
Sut le yw’r Tŷ Gwerin?
Roedd hi’n braf cwrdd ag Eiry Palfrey hefyd, cadeirydd Cymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru, sy’n rhannol gyfrifol am redeg y Tŷ Werin yr wythnos hon. Yn ôl Eiry, mae’r yurt gron, sy’n adeilad gwerinol ynddo’i hun, yn creu awyrgylch croesawgar sy’n denu pobl o bob cornel o’r maes. Hefyd mae’r mae’r amrywiaeth o adloniant ar gael yn sicrhau bod rhywbeth ar gael i bawb.
Rhywbeth i bawb.
Mae yna ragdybiaeth fod cynlleied o bobl ifanc yn cymryd diddordeb mewn diwylliant gwerin ond mae’n debyg bod y Tŷ Gwerin yn ceisio gwrthdroi’r rhagdybiaeth honno. Gyda bandiau ifanc fel ‘Cowbois Rhos Botwnnog’ yn chwarae cerddoriaeth fyw yn y babell, mae’n debyg fod rhywbeth ar gael i bawb.
Gwerin yn y maes.
Nid yw’r thema o bethau gwerinol yn gaeth i’r Tŷ Gwerin. Am y tro cyntaf heno, mae cyngerdd werin yn cael ei chynnal yn y pafiliwn am wyth o’r gloch. Mae’r gyngerdd yn dathlu cerddoriaeth gwerin fodern Cymru. Gyda pherfformwyr megis Arfon Gwilym, Sioned Webb, Plu a Calan yn rhan o’r gyngerdd mae hon yn sicr o fod yn gyngerdd boblogaidd ac er cof am Arwyn Ty Isaf. Os ydych am fynd i weld y gyngerdd, mae tocynnau ar gael sy’n costio rhwng £12- £18.
Comment on this article