Dros y tridiau nesaf bydd Maes B yn gweld artistiaid mwyaf adnabyddus y Sîn Roc Cymraeg yn diddanu torfeydd ifanc y ‘Steddfod ac roedd neithiwr yn adlewyrchiad o’r safon sydd i’w ddisgwyl dros y tridiau nesaf. Bu Llais y Maes yno ymhlith y dorf a chefn llwyfan i geisio dal ychydig o’r awyrgylch.
Roedd arlwy o fandiau yn perfformio neithiwr, steiliau hollol wahanol i’w gynnig gan y bob un o’r artistiaid. Ymhlith roc Cymraeg bandiau fel Mellt a Y Reu ro’dd na ddigon o gerddoriaeth electronig, gyda Gramcon a Gwenno ill dau yn dangos yr amrywiaeth sydd i’w ddisgwyl dros yr ŵyl.
Gwenno yw brenhines disco electronig Gymraeg. Mae ei llais euraid, synau dyfodolaidd a churiadau hypnotig yn peri pleth o ddawnsio, nodio a sefyll yn geg agored. Yn ogystal, roedd y graffeg sy’n gefn i lwyfan Maes B eleni’n ychwanegu haen gwbl hudol i’r perfformiad.
Roedd set Colorama’n hwyl, yn cynnig tonau gwahanol o bob lliw a llun. Mae’n fand dwi’n teimlo sy’n medru plesio pawb, gan aros yn unigryw.
Uchafbwynt y noson oedd set Sen Segur. Mae’r band yma’n mynd o nerth i nerth, a dwi’n teimlo cyffro go-iawn wrth edrych ymlaen at eu gweld nhw’n fyw. Mae’r synau psychadelic unigryw, harmonïau arswydus o bersain a’r tôn gwbl hypnotig yn rhywbeth gwir arbennig. Mae’r amrywiaeth o synau sy’n dod o’r llwyfan yn ddyfodolaidd ac yn hiraethus ar yr un pryd, a’r sain yn adlewyrchiad o’r bechgyn – gwir gerddorion yn fy nhyb i.
I gloi’r noson roedd Yr Ods. Mae alawon hawdd y band yma, sydd erbyn hyn yn wynebau hen gyfarwydd ar lwyfan Maes B erbyn heddiw yn plesio’r dorf, mae’n sicr. Dewis da i ddod a’r noson i ben.
Mae Maes B yn edrych yn wych eleni, ac mae’r line-up yn edrych hyd yn oed y well. Gyda phot noodle a cheeseburger wrth y tân i ddod a’r noson i gload, does dim rheswm i golli mas ar unrhyw weithgarwch yn Maes B eleni.
Comment on this article