Mae trefnwyr Eisteddfod Genedlaethol eleni wedi addo gwledd o gerddoriaeth eclectig trwy gydol yr wythnos. Yn ôl nhw mae’r brifwyl am gynnig “mwy o gerddoriaeth nag erioed”. Gan fanteisio ar y dalent eang o gerddorion Cymraeg, eleni, mae’r Eisteddfod am sicrhau bod pob cornel o’r Maes yn cael ei lenwi gan amrywiaeth o gerddoriaeth Cymraeg.
Ar ôl treulio’r dyddiau diwethaf yn crwydro’r Maes mae’n sicr bod trefnwyr yr Eisteddfod eleni wedi cyflawni eu nod, yn llwyddo darparu amrywiaeth eang o gerddoriaeth fyw trwy gydol y dydd. Wrth i Faes B gychwyn nos Fercher mae modd amcan fe fydd dros bump ar hugain o oriau o gerddoriaeth fyw yn cael ei chwarae ar draws y Maes, heb sôn am yr oriau o gystadlu sy’n mynd ymlaen o fewn y Pafiliwn. Yn sicr, bydd rhywbeth i blesio pawb.
Wrth gyrraedd y brif fynedfa, mae stereo anferth Radio Cymru yn chwarae cerddoriaeth trwy gydol y dydd i groesawu’r torfeydd wrth iddynt gerdded trwy ddrysau’r Maes. Nid yn y brif fynedfa yn unig mae cerddoriaeth i’w chlywed; mae’r naws cerddorol yn parhau o amgylch y Maes, gyda chwe lleoliad yn canolbwyntio ar chwarae cerddoriaeth fyw trwy gydol y dydd, heb sôn am yr amrywiaeth o’r stondinau sy’ hefyd yn cynnal perfformiadau.
I chi sy’n hoff o gerddoriaeth gyfoes ac yn awyddus i fanteisio ar y cyfnodau prin o heulwen yn ystod yr wythnos, mae yna gyfle i chi eistedd tu allan a chael pryd o fwyd a diod a mwynhau’r gerddoriaeth ar lwyfan awyr agored y Maes. Yn ogystal â hyn, gallwch gael eich diddanu gan rai o fandiau diweddaraf Cymru ym mhabell Caffi Maes B, neu ewch draw i’r Tŷ Gwerin os ydych yn mwynhau cerddoriaeth werinol.
Maes B, i nifer, sy’n gwneud yr Eisteddfod yn wythnos fythgofiadwy. Gyda gwledd o gerddoriaeth gyfoes gan rai o berfformwyr mwyaf poblogaidd Cymru yn chwarae tan oriau mân y bore o nos Fercher hyd at nos Sadwrn, mae hyn yn rhoi cyfle perffaith i ieuenctid Cymru i gymdeithasu a chreu ffrindiau newydd wrth wrando ar unrhyw un o Y Bandana i Bryn Fôn.
I nifer o eisteddfodwyr profiadol, uchafbwynt eu diwrnod yw gwylio cystadleuthau’r Eisteddfod felly trwy gydol yr wythnos mae’r babell fawr binc wedi ei llenwi gyda chynulleidfa sydd wedi cael eu denu gan ganu swynol cystadleuwyr o amgylch Cymru.
Yn sicr, mae’r Eisteddfod eleni yn cynnig adloniant cerddorol i bawb. Dewch draw i ymuno â ni ar Faes yr Eisteddfod er mwyn mwynhau doniau Cymry.
Comment on this article