Gyda’r ‘Steddfod yn ŵyl flynyddol felly hefyd mae’r pethau sy’n nodweddiadol ohoni. Heb os, rydym yn gweld yr un pethau yn ymddangos gyda phob ‘Steddfod. Dwi felly wedi bod o amgylch y Maes yn nodi’r pum peth sy’n eich gwneud chi’n ymwybodol ac sy’n angenrheidiol ar gyfer ‘Steddfod hapus a llwyddiannus:-
1. Wellies – Mae’n holl bwysig cofio dod â’r rhain gyda chi!
2. Sbectol Haul – Mae’r rhain yn angenrheidiol ar gyfer y tywydd heulog.
3. Peint o gwrw – Wel, mae’n draddodiadol i gael o leiaf un o’r rhain wrth i chi fwynhau’r gerddoriaeth!
4. Bwyd – Pa beth gwell i gael i gyd-fynd â’ch peint o gwrw?!
5. Freebies – Ni fyddai’r ‘Steddfod yn ‘Steddfod heb y rhain!
Trwy gael y pethau hyn i gyd, mae’n sicr mi fydd y ‘Steddfod yn un cofiadwy i chi!
Comment on this article