Neithiwr, daeth cannoedd i weld Bryn Fôn ar lwyfan Maes B. Fe oedd y prif act, ar ôl Y Trwbz, Y Cledrau, Bromas a’r Bandana. Yn ogystal â cherddoriaeth fyw, roedd DJs Mari ac Elan yn cadw’r cyffro i fynd tra bod y cerddorion yn mynd a dod.
Roedd y disgwyliadau’n uchel i fand agoriadol Y Trwbz, enillodd frwydr y bandiau’r llynedd. Wnaethon nhw mo’n siomi ni. Er iddi ddechrau’n araf, yn fuan iawn llwyddon nhw i danio’r gynulleidfa, yn barod am weddill y noson. Yn eu dilyn nhw oedd tri band sydd wedi bod yn gyfarwydd ar y sîn dros y blynyddoedd. Yn cadw i’r thema, un o’n cymeriadau mwyaf cyfarwydd gloiodd y noson. Roedd nifer ohonon ni wedi gweld Bryn Fôn droeon o’r blaen, ond roedd y cerddor profiadol yn gwybod yn union sut mae tanio torf.
Fel petai Bromas wedi dod yn syth o’r gwely i’r llwyfan, daethon mas mewn gwisgoedd nos gwyn, ond doedd y perfformiad ddim yn gysglyd. Roedd eu gig yn drobwynt, a’r maes dan ei sang, yn enwedig o flaen y llwyfan. Roedd y dorf chwyslyd yn cystadlu i fod mor agos â phosib, ac roedd caneuon bywiog y band yn gwneud hi’n anodd peidio dawnsio.
Erbyn i’r Bandana chwarae, roedd yr alcohol wedi bod yn llifo ers tipyn i rai. Cyfranodd hyn at yr atmosffêr gwyllt, a’r gig yn profi bod yn un i gofio – neu ddim.
Heb os, roedd hi’n llwyddiant, ac roedd y lein-yp adnabyddus yn cyrraedd y nod ar bob cyfrif. Bydd yn ddiddorol gweld acts amrywiol gweddill yr wythnos, a gallwn groesi bysedd byddan nhw cystal â’r noson wych sydd wedi bod eisioes.
Comment on this article