Yn y Neuadd Arddangos mae Mari Thomas, gemydd sy’n berchen ar weithdy ac oriel yn Llandeilo. Dros y blynyddoedd mae Mari wedi sefydlu dilyniant cryf ym myd yr Eisteddfod gyda nifer o gystadleuwyr yn gwisgo’u gemwaith ar lwyfan y Pafiliwn.
Mae gemwaith cyfoes Mari wedi dod yn boblogaidd iawn ymysg y Cymry, efo pobl yn hoff iawn o’u darluniau unigryw sy’n adlewyrchu dylanwad cryf o fywyd Cymreig. Dyw Mari ei hun ddim yn siarad Cymraeg ond mae’r iaith yn dylanwadu arni’n gyson wrth iddi gyfuno’i phrif ddefnydd o arian efo diwylliant a hanes Cymru.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweld gwaith Mari manteisiwch ar y cyfle ac ewch draw i’r Neuadd Arddangos lle mae’r gemydd yn hapus i greu cynnyrch unigryw i chi. Neu, mae ganddi wefan ac oriel yn Llandeilo.
Comment on this article