Dyma Robert Mabbott. Yn wreiddiol, mae Robert yn dod o Harlech ond mae bellach yn byw yn Solihull. Er hyn, mae Robert dal wedi cadw cysylltiad â’i wreiddiau Cymraeg trwy ddysgu Cymraeg. Ar ôl iddo ymddeol, penderfynodd ymchwilio i hanes ei deulu ond sylweddolodd fod nifer o’r darnau wedi eu hysgrifennu’n Saesneg felly dyna’r sbardun tu ôl iddo’n ddysgu Cymraeg. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2011 yn y Drenewydd ac mae’n mwynhau dysgu Cymraeg yn fawr iawn. Bellach mae wedi ysgrifennu cerdd am yr Eisteddfod!
Dyma yw ei ‘Steddfod gyntaf ac mae’n edrych ymlaen at weddill y dathlu.
Comment on this article