Mae Gwenno, Elan ac Alis yn dod o Gaerfyrddin ac ma’ nhw yma yn yr Eisteddfod eleni yn gweithio. Fel Eisteddfodwyr profiadol mae’r tair yma wedi bod yn manteisio ar yr amrywiaeth eang o bethau mae’r Maes yn ei gynnig, o gystadleuthau’r Pafiliwn i fwyd amrywiol y Pentref Bwyd.
Her i drefnwyr yr Eisteddfod eleni ym marn y merched bydd sicrhau bod Eisteddfod Meifod yr un mor llwyddiannus ag Eisteddfod lwyddiannus Sir Gaerfyrddin llynedd, a oedd yn dafliad carreg i ffwrdd o’u cartref. Ond, yn sicr, i’r tair yma uchafbwynt eu hwythnos bydd Maes B, ac maen nhw’n edrych ymlaen at gychwyn yr ŵyl nos Fercher, i weld hen ffrindiau a darganfod cerddoriaeth newydd. Maen nhw hefyd yn gobeithio bydd y glaw yn cadw draw er mwyn cael cwpl o nosweithiau o joio allan yn yr awyr agored.
Comment on this article