Pan gyrhaeddais i ar y Maes gyda fy nghês a rucksack ar ddydd Sadwrn, roeddwn i’n synnu gweld nad oedd y staff yn chwilio bagiau neu ofyn i mi beth sydd gyda fi yn y bagiau. Ar ôl siarad gyda phobl ar y maes, mae rhai yn cwestiynu a oes digon o ddiogelwch yn yr Eisteddfod eleni.
Ar ôl ymosodiadau terfysgol ar draws y byd yn ddiweddar, rwy’n credu bod pobl yn disgwyl presenoldeb amlwg o griwiau diogelwch.
Ar y maes, mae yna dîm diogelwch a heddlu yn crwydro o gwmpas. Wnes i siarad gyda aelod o Heddlu Gwent, ac roedd e’n dweud bod y lefel o ddiogelwch yn addas i’r math yma o ddigwyddiad: “Ar hyn o bryd mae’r lefel o ddiogelwch yn adlewerchu’r math o ddigwyddiad y mae pobl yn dod ato fe. Yn hanesyddol, does dim byd erioed wedi digwydd a ‘dw i ddim yn credu bod yr Eisteddfod yn mynd i ddennu problemau mawr.”
Ychwanegodd yr heddwas: “Mae pobl yn dod yma sy’n rhan o gerddorfeydd a byddai’n achosi ciwio erchyll petai ni’n chwilio popeth. Ar hyn o bryd does dim gwybodaeth sydd yn peri gofid neu awgrymu bod yna risg.”
Dywedodd Gwenllian Carr, pennaeth cyfathrebu yr Eisteddfod, nad oedd yr Eisteddfod erioed wedi cynnal chwilio bagiau ar fynedfa’r maes ond maent yn chwilio bagiau am alcohol yn Maes B.
Erbyn hyn rwyf wedi treulio deuddydd ar y Maes ac yn teimlo yn ddiogel iawn. Wedi siarad gyda ymwelwyr eraill y teimlad cyffredionol yw bod yr Eisteddfod yn ddigwyddiad hapus, saff heb risg ar hyn o bryd. Felly dewch i ni fwynhau’r ŵyl heb bryder!
Comment on this article