hithau’n ddydd Gwener yr Eisteddfod, fy nhro i, Steffan, oedd hi i olygu’r arlwy yma ar Llais y Maes. Dyma fy mhigion i o’r diwrnod.
Yr arwyr tawel
Drwy’r wythnos rydym wedi cael croeso mawr gefn llwyfan ble y daperir lluniaeth ar gyfer y wasg a’r cyfrannwyr llwyfan. Roeddwn yn awyddus i nodi cyfraniad y rhai hynny sy’n rhoi o’u hamser y tu ôl i’r llenni drwy’r wythnos. Cefais sgwrs â Jean Huw Jones (neu Sian Aman yng Ngorsedd), un sydd wedi rhoi oes o wasanaeth i’r Eisteddfod ac sy’n ddynes bwysig gefn llwyfan eleni yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Llety a Chroeso:
Pan ddaeth y llythyr, Hywel Wyn Edwards oedd y trefnydd pryd ‘ny, danfonnodd e’r llythyr gan ddweud “Cofia ‘does dim gwaith ynghlwm” a wedyn y funud nesaf ‘o ni’n Gadeirydd Pwyllgor! Ond, ‘na ni, mae e’n fraint,fues i’n ‘neud Meistres y Gwisgoedd am 27ain o flynyddoedd. Mae’r Eisteddfod yn golygu lot fawr i fi,yn enwedig blwyddyn ‘ma yn Llanelli, oherwydd ym 1962 ‘na pryd ges i fy urddo i’r Orsedd pan oedd yr Eisteddfod yma yn Llanelli…Fel mae Dafydd Iwan yn gweud “ry ni yma o hyd”!
Aethpwyd ati i drefnu tair rota: y cyntaf ohonynt cyn yr Eisteddfod i baratoi gwisgoedd yr Orsedd; yr ail yn trefnu gwragedd i gynorthwyo swyddogion yr Orsedd gyda’r gwisgoedd a’r trydydd yn ymwneud â’r baned. Dyma nhw yn eu helfen:
Roedd criw’r te a choffi’r prynhawn ‘ma yn dechrau gweithio am 1 o’r gloch ac yn parhau hyd nes 8 heno! Nid oes rhaid talu am y baned a’r danteithion melys ond mae blwch i roi cyfraniad tuag at y gost o ddarparu’r lluniaeth.
‘Chwalfa’
Fel un sy’n wreiddiol o ogledd-Orllewin Cymru, roedd hi’n gyffrous iawn imi glywed Arwel Gurffydd yn cyhoeddi yng nghynhadledd y Wasg y bore ‘ma y byddai cynhyrchiad ‘Chwalfa’ y Theatr Genedlaethol yn agor rhan o ddatblygiad Pontio ym Mangor. Bydd llwyfannu ‘Chwalfa’ ar yr 17eg o Fedi yn nodi agor Theatr Bryn Terfel, oddi fewn i Pontio, am y tro cyntaf ers cau’r hên Theatr Gwynedd. Dywedodd Arwel Gurffydd fod “bwlch” wedi bod yng nghynhyrchiadau’r Theatr yn yr ardal hon o’r wlad ers peth amser, ond y byddai agor Theatr Bryn Terfel yn unioni hynny unwaith eyn rhagor. Roedd tipyn o ddiddordeb y prynhawn ‘ma y tu allan i’r Cwt Drama wrth i dorfeydd gasglu i aros am ddarlleniad o’r ddrama. Mae’r cynhyrchiad yn arloesol am y bydd defnydd o actorion cymunedol yn cael ei wneud yn ogystal. Mae’r ddrama, sy’n addasiad o “nofel fawr” T. Rowland Hughes yn olrhain hanes Streic y Penrhyn a’r bywyd chwarelyddol hynny yn ardal Dyffryn Ogwen a thu hwnt. Mae’r ffaith i’r ddrama ddelio â themâu megis Sosaliaeth ac Undebiaeth Llafur yn rhan bwysig o’n hanes ni fel Cymry, yn ôl Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru. Yn anffodus, chefais i ddim cyfle i fynd i wylio’r darlleniad y prynhawn ‘ma ond mae tocynnau ar werth bellach, felly bydd rhaid imi gael gafael ar rai erbyn y perfformiad ym Mangor ganol Medi.
Casgliad Gaza
Dros yr wythnosau yn arwain at, ac yn ystod, yr Eisteddfod eleni, mae’r sefyllfa yn Gaza wedi bod yn bryder i lawer. Bu Gwylnos Gaza ym mhabell Cymorth Cristnogol nos Fawrth a bu i Jamie Bevan ganu ei set yn y Thomas Arms nos Sadwrn gyda baner Palesteina yn y cefndir drwyddi draw. Braf oedd nodi fod yr Eisteddfod wedi caniatáu i gasgliadau gael eu gwneud ar y maes ddiwedd y prynhawn. DEC Cymru fydd yng ngofal y casgliadau rhwng 4.30 a 6.30y.h. Mae’n ymddangos yn addas y gall rheiny sy’n teimlo’n ddiymadferth ynglyn â’r sefyllfa yno gael ychydig o ddylnawad trwy gyfrannu arian, a hynny wedi diwrnod yn mwynhau yn y Brifwyl.
Yfory, Dylan fydd Golygydd y dydd, ac efe felly fydd yn dod â Phigion y Dydd i derfyn ar ddiwrnod olaf Eisteddfod Genedlaethol 2014.
Comment on this article