Ddoe, lansiodd S4C gyfres newydd ‘Doctoriaid Yfory’ fydd yn mynd ar yr awyr yn yr Hydref. Mae’r rhaglen yn dilyn 15 o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy’n astudio Meddygaeth ac yn siarad Cymraeg.
Mae’r gyfres ddogfen ‘pry’ ar y wal’ yn debyg iawn i ’24 Hours in A&E’ ar sianel 4. Mae cwmni cynhyrchu Green Bay Media wedi dilyn criw o ddoctoriaid ifanc rhwng 18 a 23 oed yn gweithio mewn ysbytai ledled Cymru. Dywedodd cynhyrchydd y rhaglen Llinos Griffin-Williams gallwn ni ddisgwyl llwyth o emosiynnau wrth wylio’r gyfres: “O ddiogelwch yr ystafell ddosbarth, i realiti caled yr Uned Ddamweiniau ac Argyfwng, rydym yn edrych ar yr heriau emosiynol, meddyliol a chorfforol sy’n wynebu’r myfyrwyr hyn, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer rhai o swyddi mwyaf heriol ein gwlad.”
Amcan y gyfres yw dangos pob agwedd o fyd doctor ifanc o adegau trwm gyda chleifion sydd â chanser i fam yn darganfod ei bod hi’n feichiog, ac yn bwysicach mae gan ddoctoriaid emosiynau eu hunain ac felly yn gallu cydymdeimlo gyda’r cleifion.
Yn y lansiad, siaradodd dwy fyfyrwraig am eu profiadau nhw o gymryd rhan yn y gyfres newydd. Dywedodd Elen Berry, myfyrwraig blwyddyn 3: “roeddwn i bach yn nerfus ar y dechrau, ‘sai’ erioed wedi gwneud dim byd o flaen y camera ond roedd y profiad yn anhygoel!”
Bydd ‘Doctoriaid Yfory’ yn dechrau ar S4C ar Nos Fawrth 13eg Medi.
Comment on this article