Prynhawn ddoe, roedd Ron Jones, sylfaenydd y cwmni teledu Tinopolis yn sgwrsio ym mhabell Prifysgol Caerdydd. Daeth nifer o weithwyr y BBC, ITV, newyddiadurwyr a’r cyhoedd i wrando arno yn rhoi ei farn ar ddarlledu yng Nghymru ar hyn o bryd. Roedd yn drafodaeth ddiddorol a thanbaid gydag anghytuno barn ar adegau, megis pan fynegodd y dylai pentref drama y BBC ym Mhorth Teigr drafod mwy gyda’r cyhoedd er pwrpas darlledu gwell yng Nghymru o gofio mai arian y bobl sy’n ariannu y cwmni.
Cafwyd sgwrs ddiddorol hefyd am ddyfodol sianeli teledu a perygl dyfeisiadau newydd, megis aps i ddisodli sianeli teledu. Nid oedd Ron Jones yn gweld hynny fel ‘perygl.’ Gwêl ef mai’r perygl fyddai petai’r Gymraeg ddim yn sicrhau ei lle yn y datblygiad gyfochr â’r Saesneg. Roedd yn pwysleisio mae cynnwys y deunydd sy’n bwysig, nid y modd o’i ddosbarthu i’r gynulleidfa.
Roedd yn brynhawn cyffrous wrth wrando ar faterion llosg y byd darlledu cyfoes yn cael eu trafod gan nifer o bobl mwyaf blaenllaw y maes, ac er yr ambell anghytuno barn, roedd y parch a’r edmygedd tuag at y dyn hwn i’w weld yn glir yn y babell.
Comment on this article