Neithiwr yn nhafarn y Thomas Arms yn nhre Llanelli bu gig gyntaf Cymdeithas yr Iaith Eisteddfod 2014. Yn un o’r cannoedd o ddigwyddiadau sy’n cymryd lle yn ac o gwmpas yr ‘Steddfod eleni, roedd yn gychwyn addawol i gigs yr wythnos.
Roedd y tocynnau wedi gwerthu allan erbyn 5.30 y prynhawn, ac roedd gwefr i’w deimlo ymhlith torf stafell gefn crand y Thomas Arms.Pan gyrhaeddon ni roedd Jamie Bevan yng nghanol ei set. Am gymeriad. Ymhlith negeseuon gwleidyddol, storïau doniol a hanesion atgoffaol o deithio a chymeriadau lleol o’i filltir sgwâr, Merthyr Tudful, roedd alawon acwstig syml Jamie yn sicr yn diddanu, yn codi gwên ac yn cyffwrdd y galon. O gymeriadau lliwgar Merthyr Tudful i berthynas y canwr â Phortiwgal, roedd yn set amrywio o ran cynnwys ac arddull.
Mae’r ymdeimlad lleol sy’n tywynnu o gymeriad Jamie yn rhan bwysig o’i berfformiad, a’r neges wleidyddol yn ogystal. Drwy gydol ei set roedd baner Palestina yn eistedd wrth ei ymyl, yntau’n pwysleisio pwysigrwydd gweithredu dros y dioddefaint yn Gaza.
Ond does dim cuddio rhag y ffaith fod y mwyafrif o’r dorf wedi dod yno’r noson honno i dystio dawn gelfydd Meic Stevens. Mae statws y dyn, yn amlwg, yn chwedlonol yng Nghymru, a geiriau ei alawon hudol ar wefus y rhan fwyaf o’r dorf.
“Mae wedi bod yn siwrne hir i mi, ers fy Eisteddfod gyntaf yn 1969” meddai Meic yng nghanol ei set, cyn parhau i hudo’r dorf â’i gitâr, ei lais yn bwerus o fregus. Ymhlith ei one-liners doniol a ffefrynnau fel Cân Walter, Brawd Houdini a Tangnefedd yn y Fro Gymraeg, roedd angerdd Meic yn heintus, a phawb yn glaf i’w athrylith erbyn diwedd ei set.
I ddod a’r noson i ddiwedd egnïol daeth Neil Rosser a’r band i godi pawb o’i seddi i ddawnsio ar flaen yr ystafell, a phawb yn taflu moves ar draws yr ystafell i’w synau blws a roc.
Dyma ddechrau cyffrous i gigs y ‘Steddfod lenni. Trwy gydol yr wythnos fydd gigs Maes B a Cymdeithas yr Iaith yn Llanelli, a chyngherddau ar y maes, gan gynnwys y Tŷ Gwerin, Caffi Maes B a Llwyfan Rondo pentref bwyd. Dyma rai o’n pigion ni am yr wythnos i ddod:
Dydd Llun 4 Awst: Crys, Y Bandana, Y Reu, a Castro yng Nghlwb Rygbi Ffwrnes
Dydd Mawrth 5 Awst: Steve Eaves, Geraint Løvegreen, Siddi ac Uumar yn y Thomas Arms
Dydd Mercher: Yr Ods, Maes B
Dydd Iau 7 Awst: Gwenno, Sen Segur, Plu a Tom ap Dan yn y Thomas Arms
Dydd Gwener 8 Awst: Candelas, Maes B
Dydd Sadwrn 9 Awst: Mynediad am ddim yn dathlu 40 mlynedd a dod a’r ‘Steddfod i ben ar llwyfan Rondo ar y Maes
Comment on this article