Efallai nad yw Stondin y Dydd heddiw yn stondin o reidrwydd, ond mae’r caban arbennig hwn yn rhan holl bwysig o brofiad ymwelwyr di-Gymraeg sydd am lawn fwynhau’r Eisteddfod. Ie, Caban Cwmni Cyfieithu Cymen sydd dan y chwyddwydr heddiw wrth i ni holi sut wythnos a gafodd y criw cyfieithu eleni. Ceir dau fath o gyfieithu, fel yr eglura Aled Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Cymen: “Mae’r Seremonïau a Chystadlaethau yn fwy o sylwebaeth…fel Hywel Gwynfryn yn Saesneg!” Mae’r cyfieithwyr yn derbyn gwybodaeth am y cystadleuwyr, er enghraifft, mewn ymgais i roi mwy o gyd-destun na chyfieithu yn llythrennol megis “a wnewch chi gau’r drysau os gwelwch yn dda”! Fodd bynnag, gofynnir am y cyfieithu fwy ffeithiol hynny mewn digwyddiadau fel y Cynadleddau i’r Wasg. Mae cwmni Cymen wedi bod yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i’r Eisteddfod ers dros bymtheg mlynedd. Gyda”maes mawr” a llawer o ddigwyddiadau yn gofyn am gyfieithu ar y pryd mae hi wedi bod yn wythnos brysur i’r criw ond mae’n “braf cael bod yn yr Eisteddfod”, meddai Aled Jones. Wrth reswm, nid oes cyfieithu ym mhob un o’r digwyddiadau a sgyrsiau ac yn y blaen. Petai unrhyw ymwelydd yn dymuno cael offer cyfieithu, maent yn mynd draw i’r caban ac yn benthyg offer. Ond, gyda chost setiau cyfieithu yn ddrud iawn mae’n rhaid gadael blaendal o ryw fath neu’i gilydd. Roedd y criw sydd yng ngofal llogi’r setiau yn falch o adrodd y buodd pawb yn weddol “ufudd” eleni o ran gadael trwydded yrru neu oriadau car ac ati. Fodd bynnag, yn flynyddol mae ambell eitem ddifyr yn cael eu gadael fel blaendal. Er enghraifft gadawyd menig a chas lipstick ! Roedd y criw yn falch o adrodd y dychwelodd pawb eu hoffer a ni fu unrhyw golledion eleni.
Stondin y Dydd, ddydd Sadwrn
9 August 2014
Comment on this article