Gan Wil Davies
Stondin y dydd ar bumed diwrnod yr Eisteddfod Genedlaethol yw ‘Shwl Di Mwl’, sydd wedi’i leoli ar blot 507-508.
Stondin hynod apelgar â llawer o gymeriad yw’r stondin hwn â’i hwdis a chrysau-t llachar yn sicr o ddenu sylw ymwelwyr y maes.
Siaradais â pherchennog y siop, Owain Young, a sefydlodd y fenter ym 1992 yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth. Dywedodd eu bod yn mynychu’r Eisteddfod yn flynyddol a’u bod yn gwerthu amrywiaeth eang o nwyddau megis crysau-t, lluniau a phosteri, cardiau cyfarch ac hyd yn oed hen recordiau Cymreig. Darpara’r nwyddau hyn i bobl o bob oedran, yn cychwyn o 6 mis oed.
Yn ogystal, mae ‘Shwl Di Mwl’ yn darparu eu gwasanaeth i sawl wŷl arall. Maent yn gwneud argraff fawr ar ymwelwyr y Sioe Frenhinol, Eisteddfod yr Urdd, y Sioe Aeaf, yn ogystal â chynnal Sioeau Ffasiwn o amgylch Ysgolion yn flynyddol.
Os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth am yr hyn mae ‘Shwl Di Mwl’ yn ei werthu neu os oes diddordeb gennych i brynu eu nwyddau, ewch i’w gwefan: shwldimwl.com.
Comment on this article