Dywedodd Rhodri Williams wrth siarad â Hacio ar stondin S4C heddiw y bydd 96% o Gymru’n derbyn band eang cyflym, fforddiadwy a dibynadwy erbyn 2016.
Cyfaddefodd y cyfarwyddwr Ofcom fod band eang yn “gwbl angenrheidiol” a’i fod yn “deall problemau unrhyw un sy’n cael llais na 1mb” y eu cartrefi.
Mae band eang wedi bod yn bwnc llosg ers rhai blynyddoedd nawr, ac roedd heddiw’n cyfleu i ailymweld ag achosion rhai o’r Cymry anlwcus a ymddangosodd ar raglen Hacio’n gynharach eleni.
Roedd rhaid i un ferch o Sir Gaerfyrddin deithio bron i ddwy filltir er mwyn derbyn ryw fath o signal we, lle byddai rhaid iddi eistedd am oesoedd yn ei char gyda dongle er mwyn derbyn ryw fath o signal. I ddyn arall o Fetws-y-coed sy’n rhedeg caffi, hyd yn oed ar ôl talu dros £70 y mis, dim ond ffracsiwn o’r hyn a dalai amdano a dderbyniai, a hynny’n ddiwerth.
Mae gan lywodraeth ryw £425 miliwn wedi buddsoddi yn y prosiect ‘Cyflymu Cymru’, sy’n anelu at ddarparu band eang dibynadwy at Gymru gyfan. Medr rhywun nad sy’n medru derbyn y we yn eu cartref dderbyn hyd at £1000 o’r llywodraeth i archwilio opsiynau amgen. Er hyn, mae opsiynau amgen, fel lloeren, yn aml yn gofyn am fwy o arian unwaith mae cyfyngiadau data wedi’u cyrraedd.
Mae’n debyg fod y rhan helaeth ohonom ni’n anhapus gyda’n gwasanaeth gwe, gyda 65% yn awgrymu hynny ym mhôl ‘piniwn Hacio. Bu ymateb gyffelyb ym mhabell S4C yn ogystal, gan ddangos fod y maes yn le am fwy na ddiwylliant ond am drafodaeth a barn hefyd. Barn gyffredin oedd y dylai busnesau and sy’n medru cael band eang dderbyn fwy o arian o’r llywodraeth gan eu bod nhw’n dibynnu lawer fwy ar y we, a bod unrhyw fuddsoddiad ynddyn nhw yn cael ei ailgylchu i mewn i’r economi.
Erbyn heddiw, mae’r we yn anghenraid i fywyd cyfoes, ac mae problemau WiFi ar y maes wedi bod yn enghraifft o rwystredigaeth gwasanaeth gwael. “Mae’n mynd i fod yn araf”, dywedodd Williams, sy’n siomedig iawn i’r rhai fydd dal yn y tywyllwch am y ddwy flynedd nesaf.
Comment on this article