Ges i’n atynnu heddi at stondin yn brolio caws ar dost (Welsh rarebit) a ffagots Cymreig – Y Blât Gymraeg, yn un o gorneli’r pentref bwyd. Er hynny, wedi cerdded draw, stecen, sglodion a phys aeth a’m pryd – ro’dd y cig yn coginio o flaen y ciw yn ormod o demtasiwn i oresgyn.
A dweud y gwir, mae popeth sydd ar gael yma’n demtasiwn. Yn ogystal â’r uchod, roedd modd cael y stecen mewn frechdan gyda salad, neu blatiad salad ar wahan – rheiny’n brolio cous-cous, caws gafr a betys ymhlith eu cynhwysion (â’r ddau olaf gyda’i gilydd yn dipyn o ffefryn i mi’n bersonol).
Ro’dd y tri stecen fach a daeth gyda’r platiad yn hyfryd, wedi’i goginio’n arbennig o neis. Daeth cig, y sglodion a’r pys gyda saws hedyn bupur, yn canmol y cyfan. Fe fues i ‘chydig yn cheeky hefyd, yn gofyn am ryw saws tandoori, oedd fod i’r salad, ond ge’s i fe dros y chips.
Odd y platiad cyfan yn hyfryd a dweud y gwir, yn weddol dderbyniol am £8 – £10 gyda’r diod afal a mafon. Dyfaru peidio mynd am y rolyn £7 wnes i yn y diwedd, a cael samplo’r salad gyda hwnnw, felly faswn i’n awgrymu hynny i unrhyw un sydd am drial y stecen.
Er nad yw’r arlwy yn lliwgar nac yn hynod o gyffrous, weithiau does dim byd gwell na’r clasuron.
Comment on this article