Cadarnhaodd yr Eisteddfod ei fod wedi cyflogi dau “swyddog diogelwch”, gyda chamerâu CCTV ar eu gwisgoedd, i gadw golwg ar ardal y bar. Mae’n debyg mai dyma’r flwyddyn gyntaf i’r Eisteddfod gyflwyno’r mesurau diogelwch ychwanegol hyn.
Mae’r swyddogion i’w gweld yn cerdded o amgylch yr ardal fwyd gyfan ond fe welodd Llais y Maes un ohonynt yn cerdded ger y Pafiliwn yn gynharach heddiw. Mae’r Eisteddfod yn pwysleisio, fodd bynnag, nad yw’r camerâu yn recordio drwy’r amser a dim ond pe bai trafferthion yn codi y byddai ffilmio’n digwydd.
A ydych chi wedi sylwi ar y camerâu crwydrol o amgylch y lle? Ydych chi’n credu bod angen cadw llygaid ar ardal y bar o’ch profiad chi? Rhowch wybod inni drwy adael sylw ar waelod y stori hon neu anfonnwch neges ar Twitter @LlaisyMaes.
Comment on this article