Siom mawr fu’n wynebu ffans pennaf Yws Gwynedd neithiwr wrth iddynt aros am ei ymddangosiad…drwy’r nos!
Yn ôl Steffan Bryn, a oedd yn bresennol yn y digwyddiad neithiwr, ni chafwyd yr un awgrym fod Yws Gwynedd ddim am gamu i’r llwyfan. Roedd Steffan, fel llawer i un arall mae’n siŵr, wedi mynd yn ”unswydd” i Faes B oherwydd bod Yws Gwynedd yno.
Mae’r manylion dal yn gymylog pam nad oedd Yws Gwynedd a’i fand yn bresennol, ond mae esboniad wedi ymddangos ar Drydar prynhawn yma yn dweud:
Sori am beidio allu chwara yn @maes_b neithiwr. Sefyllfa amhosib a trist oedd tu allan i’n dwylo. Diolch i @DJsElanMari am gamu i’r bwlch ❤
— Ywain Gwynedd (@ywsgwynedd) August 4, 2016
I dawelu dryswch y dorf, mae’n debyg fod caneuon Yws Gwynedd wedi cael eu chwarae, ond hynny ar CD!
Dywedodd Steffan, er gwaetha’r siom ”roedd hi’n noson dda fel arall, roedd y bandiau arall yn dda ac roedd DJ’s Elan a Mari yn wych!’
Pob dymuniad da i Yws Gwynedd gan obeithio ei fod yn iawn.
Comment on this article